YNGLŶN Â RHIANON

Cafodd Rhianon Passmore ei hethol i gynrychioli pobl Islwyn yn y Senedd yn 2016, a’i hailethol yn 2021.

AMDANAF I

Cafodd Rhianon Passmore ei hethol i gynrychioli pobl Islwyn yn y Senedd yn 2016, a’i hailethol yn 2021. Ar hyn o bryd mae Rhianon yn Aelod o’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

Dechreuodd Rhianon ar ei gyrfa wleidyddol pan gafodd ei hethol i Fforwm Polisi Cymru ac yn ddiweddarach fel Cynghorydd Dwyrain Rhisga yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lle bu’n gwasanaethu am dros ddegawd. Mae’n gyn Aelod Cabinet dros Addysg ac mae ganddi brofiad helaeth ar draws y sector addysg fel arbenigwr ym maes cerddoriaeth cyn ysgol, cerddor a chyn-ddarlithydd. Mae wedi cadeirio amrywiaeth o gonsortia addysg a gwasanaethau cynghori. Ganwyd Rhianon yng Nghefn-y-pant a chafodd ei magu gyda’i theulu yng Nghwmcarn a Threcelyn. Roedd tad Rhianon yn Bennaeth yr Adran Gelf yn Ysgol Gyfun Trecelyn. Datblygodd Rhianon ei doniau a’i diddordebau cerddorol ei hun o’i theulu creadigol ac wrth astudio yn Ysgol Trecelyn a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a chafodd fwrsari i astudio’n breifat yn Royal Academy Music. Mae’n parhau i fod yn angerddol dros gerddoriaeth ac yn ei hamser hamdden mae Rhianon ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfansoddiad newydd ar gyfer y clarinet, y ffidil a llais.

Mae’r ffaith bod Rhianon wedi tyfu i fyny yn Nhrecelyn a mynd ymlaen i fagu ei theulu ei hun yn Nhŷ Sign yn golygu ei bod yn ymwybodol iawn o’r materion sy’n bwysig i bobl Islwyn. Mae Rhianon yn awyddus i ddileu tlodi ac anghyfiawnder yn ein cymunedau ac mae ei hymrwymiad hirsefydlog amlwg i brosiectau adfywio cymunedol yn ne Cymru wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Joseph Rowntree.

Mae Rhianon wedi bod yn aelod selog o’r Blaid Lafur am flynyddoedd lawer, ac mae wedi gwasanaethu ar Fforwm Polisi Cenedlaethol y blaid. Mae ganddi brofiad gwleidyddol helaeth o ran datblygu polisi ar lefel leol a chenedlaethol. Mae’n credu’n gryf mewn defnydd ymarferol o werthoedd Llafur o ran sicrhau cyfle cyfartal i bawb, gan wrthwynebu polisïau sy’n cynyddu tlodi ac mae ganddi hanes hir o ymgyrchu yn erbyn sefydliadau asgell dde eithafol megis y BNP.

DIDDORDEBAU A CHYFLAWNIADAU

Mae gan Rhianon ddiddordeb penodol mewn addysg, llywodraeth leol, datblygu economaidd ac adfywio. Yn eiriolwr brwdfrydig dros fenywod, mae Rhianon wedi cadeirio Fforwm Pwyllgorau a Pholisi Menywod Llafur Cymru, ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cymraes y Flwyddyn.

Mae Rhianon hefyd yn eiriolwr angerddol dros gerddoriaeth a’r celfyddydau creadigol. Mae ganddi ddiddordeb cryf mewn addysg cerddoriaeth a gwaith datblygu ym maes y celfyddydau. Mae wedi gwasanaethu ar Gyngor Darlledu BBC Cymru ac ar gorff gweithredol Cyngor Llyfrau Cenedlaethol Cymru.

Rhianon yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gerddoriaeth yn y Senedd. Mae’n eiriolwr brwd dros addysg cerddoriaeth yng Nghymru ac wedi helpu llywio’r gwaith o greu Strategaeth a Chynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Etholwyd Rhianon yn gynrychiolydd Llafur y Senedd i Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn 2018 ac mae hefyd yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad Ynysoedd Prydain a Changen Menywod Rhanbarth Môr y Canoldir.

Mae gan Rhianon gefndir a chred gref mewn Llywodraeth Leol ac roedd yn Fentor Llywodraeth Leol achrededig i gymheiriaid. Yn sgil ei hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus, Rhianon oedd cynrychiolydd Cymru ar Fwrdd Adfywio a Thrafnidiaeth y Gymdeithas Llywodraeth Leol. Mae wedi gweithio fel uwch swyddog mewn undeb llafur, gan gyflawni blaenoriaethau cydraddoldeb ar draws rhanbarth de-orllewin y Deyrnas Unedig.

Cafodd Rhianon ei phenodi a’i ailbenodi gan y Swyddfa Gartref i’r Bwrdd Prawf Cenedlaethol ac roedd yn gadeirydd ar Bwyllgor Iechyd a Diogelwch Gwent.

Mae Rhianon wedi sefydlu a chadeirio nifer o sefydliadau cymunedol a gwirfoddol sydd wedi ennill gwobrau. Mae ganddi gefndir cryf mewn llywodraethu ysgolion addysg gynradd, uwchradd a thrydyddol. Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol profiadol ac yn ymddiriedolwr, ac yn fwyaf diweddar mae wedi dod yn noddwr yr elusen celfyddydau cynhwysiant cenedlaethol, KIRAN Cymru.

Diweddariadau Cyfryngau Cymdeithasol

‘Hoffwch’ a ‘Dilynwch’ fy nghyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrchoedd, y newyddion a'r buddsoddiadau diweddaraf yn Islwyn.

Load More

TANYSGRIFWCH I GAEL NEWYDDION DRWY E-BOST
Cylchlythyr
Tanysgrifiwch i'm cylchlythyr e-bost i gael y newyddion diweddaraf am fuddsoddiadau Llywodraeth Cymru a’m hymgyrchoedd yn Islwyn.
Tanysgrifio
Rwy'n cytuno i'r Polisi Preifatrwydd ac i gael diweddariadau e-bost.

CYSYLLTU

Fel eich Aelod o’r Senedd (AS), gallaf helpu etholwyr ar amrywiaeth o faterion, fel addysg, yr amgylchedd, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, trafnidiaeth, a thai.

Defnyddiwch y ffurflen gyswllt i gysylltu â mi. Cofiwch roi cymaint o fanylion â phosibl, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad a manylion llawn y mater dan sylw.

Rydw i hefyd yn cynnal cymorthfeydd wyneb yn wyneb ac ar-lein gan ddefnyddio Zoom/Microsoft Teams. Ym mhob sesiwn, byddaf ar gael i helpu gyda materion lleol. Cliciwch yma i drefnu apwyntiad.

CAPTCHA image

This helps us prevent spam, thank you.

TANYSGRIFWCH I GAEL NEWYDDION DRWY E-BOST
Cylchlythyr
Tanysgrifiwch i'm cylchlythyr e-bost i gael y newyddion diweddaraf am fuddsoddiadau Llywodraeth Cymru a’m hymgyrchoedd yn Islwyn.
Tanysgrifio
Rwy'n cytuno i'r Polisi Preifatrwydd ac i gael diweddariadau e-bost.
TANYSGRIFWCH I GAEL NEWYDDION DRWY E-BOST
Cylchlythyr
Tanysgrifiwch i'm cylchlythyr e-bost i gael y newyddion diweddaraf am fuddsoddiadau Llywodraeth Cymru a’m hymgyrchoedd yn Islwyn.
Tanysgrifio
Rwy'n cytuno i'r Polisi Preifatrwydd ac i gael diweddariadau e-bost.
SUBSCRIBE FOR EMAIL UPDATES
Keep Updated
Subscribe to my email newsletter to get the latest news on Welsh Government investment and my campaigns in Islwyn.
Subscribe
I agree to the Privacy Policy and to receive email updates.
SUBSCRIBE FOR EMAIL UPDATES
Keep Updated
Subscribe to my email newsletter to get the latest news on Welsh Government investment and my campaigns in Islwyn.
Subsribe
I agree to the Privacy Policy and to receive email updates.
We use cookies to improve your overall site experience. This includes personalising content, analysing site usage, and to assist in our marketing efforts. By continuing to use our site, you accept our use of cookies and Privacy Policy.
Contact Details
Privacy Policy
Accept